FU baton arbennig yn ymweld â 15 tref dros Gymru wrth i Ras yr Iaith ddathlu’r Gymraeg ar hyd a lled Cymru'r wythnos ddiwethaf.

Cafodd neges ei osod yn y baton ar faes Eisteddfod Llangollen cyn cychwyn y Ras yn Wrecsam fore drannoeth

Eleni cafodd neges y ras ei ysgrifennu gan Elena Brown, gwirfoddolwr ifanc gyda Menter Iaith Sir Ddinbych.

Cyhoeddwyd y neges wrth i’r ras gyrraedd diweddglo yng Nghaerffili nos Wener, y 6ed o Orffennaf.

Am fwy o fanylion ac i ddarllen neges y ras, ewch i www.rasyriaith.cymru