MAE cymdeithas dai sydd â swyddfeydd yn y Bala a Dinbych wedi ennill gwobr mewn cystadleuaeth oedd ar agor i gymdeithasau tai ledled Cymru, am ei waith arloesol yn mynd i'r afael ag unigrwydd mewn pobl hyn.

Hawliodd Grwp Cynefin y wobr gyntaf yn y categori partneriaeth gymunedol yng ngwobrau Gwasanaeth Cynghori Cyfranogiad Tenantiaid Cymru (TPAS) am ei brosiectau rhyng-genedlaethau, sy'n dod â phobl ifanc a phobl hyn at ei gilydd.

Mae'r gwobrau yn canolbwyntio ar rôl tenantiaid wrth greu cymunedau tai cymdeithasol.

Daeth gwaith llwyddiannus Grwp Cynefin i’r brig wrth i denantiaid ddweud eu bod yn hapusach, yn fwy hyderus ac yn llai unig ar ôl cymryd rhan yn y cynllun.

Helpodd prosiect cyntaf y grwp i drigolion o Awel y Coleg a disgyblion Ysgol Bro Tryweryn yn y Bala ddarganfod eu doniau cerddorol gyda sesiynau rhyngweithiol dan arweiniad cerddorion proffesiynol.

Yna, trefnodd Grwp Cynefin bod disgyblion Ysgol Pen Barras yn Rhuthun yn ymweld â chartrefi lleol i ddarllen llyfrau, dawnsio, a gwneud celf a chrefft ochr yn ochr â'r tenantiaid oedrannus.

Cafwyd hefyd lwyddiant yn y categori gweithredu cymunedol, gan fod prosiect 'Youth Shedz' Dinbych wedi dod yn ail am y gwaith maen nhw’n ei wneud yn cynorthwyo pobl ifanc bregus.

Enwyd Catherine Jones, tenant Grwp Cynefin ers dros 25 mlynedd, yn ail yng nghategori tenant y flwyddyn, gyda Chloe Villis hefyd yn ennill yr ail wobr am denant ifanc y flwyddyn.

Yn ôl Mair Edwards, rheolwr mentrau cymunedol Grwp Cynefin: “Mae ennill y wobr partneriaeth gymunedol, a chael cydnabyddiaeth yn y categorïau eraill, yn golygu cymaint i bawb sy'n gysylltiedig â ni.

"Mae ein slogan 'mwy na thai' yn golygu ei bod hi'n bwysig i ni fod ein tenantiaid yn byw bywydau cymdeithasol cyflawn.”

Yn ôl Shan Lloyd Williams, prif weithredwr Grwp Cynefin: “Rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth am y gwaith o gefnogi a hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid ledled gwaith y gymdeithas.

"Bydd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar Gorffennaf 18 yn dangos y math o waith a ddarperir gan ein tîm mentrau cymunedol mewn partneriaeth â Dr Catrin Hedd Jones, seicolegydd a darlithydd o Brifysgol Bangor.”

Mae Grwp Cynefin yn darparu mwy na 4,800 o gartrefi rhent ac eiddo fforddiadwy i bobl ar draws gogledd Cymru a gogledd Powys.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.grwpcynefin.org neu ffoniwch 0300 111 2122.