PARHAU i wella mae’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg gyda sefydliadau cyhoeddus, yn ôl adroddiad newydd gan Gomisiynydd y Gymraeg.

‘Mesur o Lwyddiant’ yw’r pedwerydd adroddiad i’r Comisiynydd ei gyhoeddi lle mae’n rhoi barn annibynnol ar y ffordd mae sefydliadau cyhoeddus yn defnyddio’r Gymraeg.

Sail yr adroddiad yw cyfres o arolygon ac ymchwil am brofiadau’r cyhoedd a thystiolaeth gan y sefydliadau eu hunain.

Dyma’r prif ganfyddiadau:

• Cyfarchiad Cymraeg gan dderbynnydd yn ystod 89 y cant o alwadau ffôn.

• Ymateb Cymraeg i e-bost mewn 93 y cant o achosion.

• 100 y cant o beiriannau hunanwasanaeth yn gweithio’n llawn yn Gymraeg.

• 82 y cant yn cytuno fod cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg gyda chynghorau sir yn cynyddu neu wedi aros yr un peth.

Mae’r adroddiad yn nodi bod angen i sefydliadau ei gwneud hi’n haws i bobl ddefnyddio’r Gymraeg wrth dderbyn gwasanaethau.

Daeth i’r amlwg bod angen gofyn am y gwasanaeth Cymraeg yn 19 y cant o’r achosion dros y ffôn ac mai dim ond mewn 46 y cant o ymweliadau â derbynfeydd roedd staff oedd yn gallu siarad Cymraeg yn gwisgo bathodynnau i ddangos hynny.

Dywedodd Meri Huws: “Un arfer ydym yn credu’n gryf ynddo yw’r ‘cynnig rhagweithiol’ - a beth mae hynny yn ei olygu ydy bod y gwasanaeth Cymraeg yn amlwg i ddefnyddiwr, heb orfod gofyn amdano.”

Ychwanegodd: “Mae’r darlun yn gyffredinol yn un cadarnhaol iawn.

"Mae gwaith da iawn yn cael ei wneud gan sefydliadau, a gobeithiaf y byddant yn ymateb i ganfyddiadau’r adroddiad ac yn ei ddefnyddio i’w helpu i ganolbwyntio ymdrechion i wella ymhellach.”