WEDI diflasu ar wyliau’r haf? Dim i’w wneud?

Dyma gyfle i newid hynny, a hynny ar Ddydd Llun, Awst 20 yng Nghanolfan Llanfwrog, Rhuthun.

Cynhelir sesiwn animeiddio lego at ddiddordeb plant o 6 i 13 oed, sesiwn boreuol o 10am-12pm ac un yn y prynhawn o 1.30-3.30pm.

Mae’r sesiynau animeiddio lego yn bur boblogaidd ac mae hynny’n dyst o’r holl archebion ar weddill y sesiynau lego sy’n cael eu cynnal ar hyd yr wythnos.

Fodd bynnag, mae ambell i lefydd dal ar gael yn y prynhawn.

Does dim amheuaeth y bydd y sesiwn yn fuddiol i blant, nid yn unig o ran gweithgaredd hwyliog i gymryd rhan ynddi, ond hefyd o fudd ieithyddol. Mae manteisio ar gyfleoedd allgyrsiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn sicr o fagu hyder plant a phobl ifanc i gyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg.

Pris y sesiwn fydd £5 y pen.

Er mwyn archebu lle, ffoniwch 01745 812822, neu gyrrwch ebost at sylw gwion@misirddinbych.cymru

Am fwy o weithgareddau Cymraeg o’r un modd, cadwch lygad barcud ar wefan Facebook Menter Iaith Dinbych.