BYDD chwech o dalentau perfformio mwyaf dawnus Cymru yn cystadlu am £4,000 a teitl anrhydeddus enillydd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2018 - a’r holl gyffro a'r perfformiadau i'w gweld ar S4C nos Sul, Hydref 14.

Dywedodd Bryn Terfel: "Dyma gyfle euraidd i rai o dalentau perfformio ifanc gorau Cymru i ddisgleirio ar lwyfan cenedlaethol.

"Fel un sy'n credu'n gryf mewn gwerth datblygu talent newydd, rydw i wrth fy modd yn gweld yr ysgoloriaeth yn mynd o nerth i nerth.”

Ymhlith y chwech sy’n cystadlu eleni mae Glain Rhys, o’r Bala, a Celyn Cartwright, o Ddinbych.

Nod y wobr, a sefydlwyd ym 1999, yw meithrin talent rhai o berfformwyr ifanc gorau Cymru, ond mae’r ysgoloriaeth yn llawer mwy na chystadleuaeth lwyfan yn unig.

Yn dilyn cael eu dewis nôl ym mis Mehefin, mae’r chwe chystadleuydd wedi bod yn gweithio gyda chyfarwyddwr cerdd a choreograffydd er mwyn datblygu a theilwra eu rhaglenni arbennig ar gyfer y gystadleuaeth.

Ymysg cyn-enillwyr yr Ysgoloriaeth mae’r canwr Steffan Rhys Hughes, o Llangwyfan, ger Dinbych.

Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2018

Nos Sul, Hydref 14 (6.45pm) ar S4C