MAE gan y cerddor o Ruthun Robat Arwyn hanes hir a llewyrchus gyda Syr Bryn Terfel a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Robat Arwyn gyfansoddodd ‘Atgof o‘r Sêr’ a gafodd ei gomisiynu yn arbennig i Bryn Terfel ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2002 yn Sir Ddinbych.

Roedd ‘Atgof o’r Ser’ yn gynhyrchiad mor llwyddiannus fel y cyfansoddodd Robat gynhyrchiad cerddorol arall yn 2005 sef ‘Er Hwylio’r Haul’ ac eto, Bryn Terfel oedd yn canu’r brif ran yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri.

Gan symud ymlaen at eleni ac fe ddaeth Robat Arwyn a Syr Bryn at ei gilydd eto - yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 ym Mae Caerdydd y tro hwn - i ddathlu bywyd cawr o ganwr a oedd yn enwog am herio’r ffiniau Paul Robeson.

Roedd noson agoriadol yr wyl yn Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru yn cyd-daro â nodi 60 mlynedd ers i Paul Robeson ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy yn 1958.

Cawr o ganwr arall, Syr Bryn Terfel gafodd yr her a’r fraint o arwain y dathlu trwy’r gwaith cerddorol grymus Hwn yw fy Mrawd.

Bydd modd gweld y cynhyrchiad llwyfan cofiadwy gyda’r gerddoriaeth wedi ei chyfansoddi gan y cerddor Robat Arwyn a’r libreto gan y prifardd Mererid Hopwood am y tro cyntaf erioed ar deledu ar S4C nos Sul, Hydref 21 am 7pm

Mae’r cynhyrchiad yn ddathliad o berthynas bwysig a phwerus Paul Robeson gyda Chymru, perthynas a ddechreuodd yn Llundain yn ystod Gorymdeithiau Newyn glowyr de Cymru yn 1927, ac a barhaodd tan ei farwolaeth.

Llwyddodd ei gysylltiad agos gyda phobl y Cymoedd, ac yn arbennig y glowyr i daro tant ar draws Cymru, a dyma brif ffocws y gwaith hwn a gomisiynwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd Syr Bryn Terfel: “Dyma oedd comisiwn arloesol gan yr Eisteddfod Genedlaethol yn eu deiliadaeth ysgubol a llwyddiannus yng Nghanolfan y Mileniwm, gan ddod â Robat Arwyn a Mererid Hopwood ynghyd i greu partneriaeth wych.

"Roedd hi’n anrhydedd i agor Eisteddfod Genedlaethol Bae Caerdydd hefo cynhyrchiad am wr eiconig yr wyf wedi ei edmygu ers amser hir, a oedd hefyd â’r llais bas mwyaf godidog.

"Roedd hi’n rhoi llawenydd mawr imi ail-fyw ei hanes trwy ganeuon a deuawdau, alawon gwerin a dawns: y wledd anhygoel y gall yr Eisteddfod bob amser ei gweini ar fwrdd ein cenedl.”

Hwn yw fy Mrawd:

Nos Sul, Hydref 21 (7pm ar S4C).

Ar alw: ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill.

Cynhyrchiad Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar gyfer S4C.