MAE prosiect yn y Gogledd yn mynd ati i ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol di-dor i bobl ag anableddau dysgu.

Dyma'r prosiect diweddaraf i gael cyllid oddi wrth y gronfa werth £100m o eiddo Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi cyllid ar gyfer trawsnewid sut mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu.

Ddoe (Hydref 30), cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething AC ei fod yn rhoi £1.69m dros gyfnod o ddwy flynedd i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol y Gogledd ar gyfer datblygu ffyrdd newydd o weithio a allai gael eu defnyddio ledled Cymru yn y pen draw.

Dywedodd Mr Gething: "Nod y prosiect hwn ydy sicrhau mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu er myn eu helpu i fyw’n fwy annibynnol.

"Y gobaith wedyn fydd cyflwyno'r syniadau newydd hyn ym mhob rhan o Gymru er mwyn gwella gwasanaethau i gleifion a lleihau'r pwysau ar rannau o'r GIG a'n gwasanaethau cymdeithasol.”