FEL rhan o fy ngwers Gymraeg yr wythnos hon, cefais y cyfle i ymweld â Llyfrgell Llanelwy er mwyn cael trafod fel grwp darllen lefel ‘A’ Cymraeg am y tro cyntaf.

Mi roedd yn fraint cael ymweld â’r adeilad newydd, a chael cyfle i drafod a mynegi barn am lyfrau, ac i glywed safbwyntiau cyd-disgyblion.

Mae’r clwb darllen wedi bod yn hwb da er mwyn ennyn fy niddordeb i ddarllen unwaith eto ac wedi fy nghymell i ddarllen yn amlach, yn bendant!

Rwyf wedi cychwyn fy ail lyfr erbyn hyn ac rwy’n edrych ymlaen i’w ddadansoddi yn y drafodaeth nesaf.

ANNIE WINTER

Myfyriwr Cymraeg Safon Uwch

Ysgol Glan Clwyd

AETHON ni i lawr i Lyfrgell Llanelwy i fod yn rhan o’r clwb darllen, lle buom yn trafod y nofelau yr oedden ni wedi eu darllen cyn yr ymweliad.

Y llyfrau dan sylw oedd ‘Hi yw fy ffrind’ gan Bethan Gwanas ac ‘Y Sw’ gan Tudur Owen.

Roedd hyn yn gyfle i ni drafod y llyfrau yma yn y clwb darllen, a chyfle i fynegi fy marn ar y nofel yr oeddwn i wedi ei dewis, sef ‘Hi yw fy ffrind’.

Credaf fod y llyfr hwn yn arbennig oherwydd gall pawb uniaethu â’r holl ddigwyddiadau sydd yn y nofel, yn wir, sefyllfaoedd yn ein bywydau ni heddiw.

Mwynheais fy mhrofiad yn y llyfrgell anhygoel yma gydag adnoddau a ffynonellau newydd i bawb.

ALYSSA UPTON

Myfyriwr Cymraeg Safon Uwch

Ysgol Glan Clwyd