MAE albym newydd sbon gan Steffan Hughes newydd ei ryddhau – casgliad o ganeuon Cymraeg a Saesneg mewn amrywiol arddulliau, megis gwerin, sioeau cerdd, clasurol poblogaidd a gospel, ynghyd â chyfansoddiad newydd gan Steffan ei hun a chân newydd gan Caryl Parry Jones.
Cychwynnodd Steffan, sy’n wreiddiol o Langwyfan, ganu yn wyth oed ac mae’n wyneb cyfarwydd ar lwyfannau eisteddfodau a chyngherddau Cymru.
Recordiodd ei albym cyntaf ‘Cana o dy Galon’ yn 12 oed ac yn dilyn y record hynny, derbyniodd wahoddiad i ganu deuawd gyda Katherine Jenkins ar ei albym ‘Sacred Arias’ gan gyrraedd rhif 5 yn y siartiau albyms Prydeinig.
Erbyn hyn, mae’n aelod o Only Men Aloud, a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth y BBC ‘Last Choir Standing’, gan berfformio ar lwyfannau ledled y byd.
Ymysg yr uchafbwyntiau yn ei yrfa hyd yma mae perfformio yn Mumbai, cymryd rhan yn nhaith Haf y Proms Prydeinig a chanu i’r dorf yn Stadiwm y Principality yn ystod gemau rhyngwladol y 6 gwlad.
Mae Steffan hefyd yn cyflwyno cyfres ‘Sioeau Cerdd Steffan Rhys’ ar BBC Radio Cymru gan sgwrsio gyda nifer o enwau mawr Cymreig y byd sioeau cerdd, yn ogystal a chantorion ifanc.
Recordiwyd yr albym newydd yn Stiwdio Sain, Llandwrog dan ofal y cyfarwyddwr cerdd a’r cynhyrchydd Geraint Cynan.
Yn westai arbennig ar yr albym mae’r gantores Mared Williams, o Lannefydd, ac mae hi yn ymuno á Steffan i berfformio cyfansoddiad newydd sbon gan Caryl Parry Jones – Y Mur.
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here