GALL Cymru’n sicr hawlio’r enw ‘Gwlad y Gân’, fel y cawn ddarganfod ar Noswyl Nadolig yn y rhaglen arbennig Taith Bryn Terfel – Gwlad y Gân ar S4C.

Cawn daith gerddorol yng nghwmni Syr Bryn Terfel wrth iddo fwrw golwg ledled Cymru ar hanes cerddoriaeth Gymreig a’r hyn a ysbrydolodd ein cerddoriaeth fwyaf poblogaidd fel cenedl. Fe gaiff gyfarfod â rhai o’n cerddorion mwyaf blaenllaw a chael cyd-berfformio ambell i gân.

Yn y gogledd, cawn hanes un o’r clasuron corawl yn Sir Ddinbych, wrth i Bryn gyfarfod â’r gantores Caryl Parry Jones yng nghapel Bethel Prestatyn, addoldy pwysig ym mywyd ei thad, y diweddar gyfansoddwr a chyfeilydd Rhys Jones, sy’n cael ei gofio am gyfansoddi ‘O Gymru’.

Roedd yn organydd yn y capel, ond ar gyfer dwy gitâr y cafodd ei gân enwocaf ei chyfansoddi.

Dywedodd Caryl: “Rhyw fath o gân serch i Gymru ydi hi.

"Mae’r geiriau’n hollol wahanol i’r caneuon protest oedd yn digwydd ar yr un pryd gafodd hi ei chyfansoddi.

"Mae’r alaw a’r strwythur harmonig mor soffistigedig yn erbyn y geiriau diniwed yma.

"Dwi’n meddwl bod hynna wedi bod yn gyfuniad sydd wedi cyffwrdd lot o bobl ac oherwydd ei bod hi’n alaw dda, mae’n gallu cael ei threfnu mewn sawl gwahanol ffordd hefyd.”

I Ruthun at ei hen gyd-ddisgybl Ysgol Dyffryn Nantlle, Robat Arwyn, yr aiff Bryn nesaf.

Maen nhw’n hel atgofion am berfformiad cyntaf Bryn gyda Chôr Rhuthun o’r gwaith ‘Atgof o’r Ser’ yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2001, sy’n arwain i berfformiad o’r gan ‘Brenin y Ser’.

O Gymru i ‘Gymru fach’, mae Bryn yn croesi Afon Merswy ar gyfer rhan ola’r daith, lle mae’n darganfod mwy am ddylanwad Gwlad y Gân ar ddiwylliant Lerpwl.

Cawn glywed hanes pedair Eisteddfod sydd wedi’u cynnal yno, gan gynnwys Eisteddfod Hedd Wyn ym Mhenbedw yn 1917, ac mae Bryn yn ymweld â’r Welsh Streets yn Toxteth ac yn cael cwmni Berwyn Jones, o Wrecsam, sy’n astudio yno.

Dywedodd Bryn Terfel: “Wel am fraint cael mynd ar siwrna yn y car o amgylch Cymru yn clywed hanesion ein traddodiad cerddorol - Cymru fach sydd yn llawn cyfoeth amryliw diwylliannol - ac yn bleser llwyr ymweld â’i lleoliadau arwyddocaol gan gyfarfod â nifer o’i chymeriadau dylanwadol sydd ynghlwm â'r stori a’n taith gerddorol ni.”

Taith Bryn Terfel – Gwlad y Gân

Noswyl Nadolig, Rhagfyr 24 (8pm).