NOS Sadwrn yma (Chwefror 9 am 7.30pm) am un noson yn unig, yn Theatr John Ambrose, Rhuthun, bydd cyfle i fwynhau profiad arbennig iawn.

Bydd Nic Parry yn holi y Prifardd Mererid Hopwood a’r cyfansoddwr Robat Arwyn am y profiad o greu y Sioe Gofiadwy “Hwn yw fy Mrawd”, a berfformiwyd gyntaf yn Eisteddfod Caerdydd llynnedd.

Mae'n seiliedig ar fywyd y canwr Paul Robeson a’i gysylltiad rhyfeddol a Chymru, yn cynnwys perfformiadau allan o’r cynhyrchiad gan un o ser y sioe, Steffan Prys.

Cawn gyfle i glywed am y troeon trwstan, y tensiynnau a’r hanes tu ol i bob can, ac am ran Syr Bryn Terfel yn y creu.

Fe fydd hon yn noson llawn emosiynau, yn mynd at wraidd y broses o greu sioe ddisgrifiwyd fel un o’r goreuon erioed yn y Gymraeg ac yn cynnwys caneuon ddisgrifiwyd gan Syr Bryn Terfel fel y goreuon erioed iddo eu canu mewn cynhyrchiad gwreiddiol Cymraeg.

Mae’r tocynnau i’r achlysur arbennig hwn ar gael yn Siop Elfair Rhuthun, Siop Clwyd, Dinbych a Siop y Siswrn, Yr Wyddgrug.