MAE cyfres o apiau, a ddyfeisiwyd gan Fenter Iaith Fflint a Wrecsam i helpu teuluoedd i ddysgu Cymraeg, erbyn hyn yn ysbrydoli cychwyn cadarn wrth ddysgu iaith i’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr y Gernyweg.

Mae apiau Cymraeg Magi Ann, a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol a'u lansio yn 2016, bellach wedi gweld fersiwn gyfatebol newydd y Gernyweg yn cael ei lansio yn Truro, Cernyw yr wythnos ddiwethaf.

O ganlyniad i’r bartneriaeth a gafodd ei meithrin gyda Menter Iaith Fflint a Wrecsam yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2017, dadorchuddiwyd ap Magi Ann Kernewek gan arloeswyr diwylliannol Cernyw, Golden Tree Productions.

Mae ap Magi Ann yn dod â chyfres o lyfrau Cymraeg traddodiadol o’r un enw yn fyw, a ysgrifennwyd yn wreiddiol gan Menna Evans, awdures ac athrawes o Sir y Fflint.

Derbyniodd yr ap Cymraeg, sydd bellach wedi’i lawr lwytho dros chwarter miliwn o weithiau, y bleidlais fel prosiect addysg gorau’r DU yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2017.

Cafwyd y syniad o greu fersiwn Gernyweg o Magi Ann yn ystod Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.

Yma y cyfarfu’r tîm buddugol o Fenter Iaith Fflint a Wrecsam gyda’r tîm buddugol o Gernyw oedd yn gyfrifol am y Man Engine a enillodd brosiect celfyddydol gorau'r DU yn y seremoni.

Dywedodd Will Coleman, cyfarwyddwr artistig ar ran Golden Tree Productions: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda thîm Magi Ann i greu’r ap Magi Ann Kernewek, ar gyfer addysgu plant a theuluoedd.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Loteri Genedlaethol am wneud y berthynas hon yn bosibl.”

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn un o rwydwaith o 22 menter iaith sy’n gweithio i gryfhau ac atgyfnerthu’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau led led Cymru.

Meddai Lowri Jones, cadeirydd Mentrau Iaith Cymru: “Rydym yn falch iawn i weld yr ap yn cael ei ddatblygu a’i ddefnyddio i hyrwyddo iaith leiafrifol arall.

"Mae cydnabod ac ateb anghenion cymunedau yn tanategu gwaith y mentrau iaith lleol wrth gynyddu ac atgyfnerthu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau.”

Dywedodd John Rose, cyfarwyddwr cronfa gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae’n wych gweld fod y prosiect hwn sydd wedi ennill gwobr yn cefnogi ieithoedd lleiafrifol eraill yn awr ac yn ysbrydoli’r genedlaethol nesaf o siaradwyr y Gernyweg.”

Mae apiau Magi Ann yn y Gernyweg a’r Gymraeg ar gael i’w lawrlwytho am ddim oddi ar yr AppStore a Google PlayStore.