WEDI noson arbennig yn Neuadd Dref Dinbych nos Sadwrn diwethaf, a bron i 400 o bobl wedi mwynhau cerddoriaeth a chomedi gyda Beth Celyn a Tudur Owen, mae yna hen edrych mlaen at fwy o gerddoriaeth Cymraeg nos Wener yma (Chwefror 22) yng Ngwesty’r Oriel, Llanelwy, gydag Alys Williams a’r Candelas.

Trefnir y gig ar y cyd rhwng dau bwyllgor lleol yn ardal Groes a Henllan, a’r elw yn mynd tuag at Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 ac Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020.

Ar nos Wener, Mawrth 1, bydd dathliad cerddorol, eto gyda’r Candelas yn ogystal ag HMS Morris, a thwmpath Cymreig traddodiadol gan Aderyn Prin.

Ar ôl iddynt ryddhau eu halbwm cyntaf yn 2013, mae gyrfa Candelas wedi mynd o nerth i nerth.

Buan iawn daeth caneuon megis ‘Anifail‘ a ‘Symud Ymlaen‘ yn gyfarwydd iawn i dorfeydd ledled Cymru.

Ers yr albym gyntaf yma maent wedi ennill nifer o gategorïau yng Ngwobrau’r Selar, yn ogystal â chael eu dewis i fod yn un o fandiau prosiect Gorwelion BBC Cymru 2014-15.

Mae tocynnau i gig Gwyl Ddewi ar gael drwy ffonio 01352 701521 neu ewch i wefan Theatr Clwyd.