BYDD dros 500 o blant yn Sir Ddinbych yn cael 30 awr o ofal plant am ddim, fel rhan o'r cynllun cenedlaethol sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru.

Ers i'r cynllun fynd yn fyw yn Sir Ddinbych ar Ionawr 7, derbyniwyd 548 o geisiadau.

Roedd 512 o blant yn gymwys i'w dderbyn, gyda 130 o ddarparwyr gofal plant wedi ymrwymo i ddarparu'r cynigion gofal plant ar gyfer teuluoedd sy'n byw yn Sir Ddinbych.

Disgwylir i'r ceisiadau agor ar ddydd Gwener, Mawrth 1 ar gyfer y plant hynny sy'n troi'n dair oed erbyn Ebrill 28, 2019.

Yn amodol ar gymhwysedd, byddai hawl ganddynt i hyd at 30 awr o ofal plant am ddim o ddydd Llun, Ebrill 29.

Dywedodd y Cyng Huw Hilditch-Roberts, aelod arweiniol y cabinet dros addysg, plant, pobl ifanc a'r iaith Gymraeg: "Rydym wrth ein boddau bod teuluoedd ar draws Sir Ddinbych yn manteisio ar y cynnig gofal plant am ddim.

"Nod y cynnig gofal plant yw caniatáu i rieni cymwys gael mwy o ddewisiadau o ran cyflogaeth, cynyddu eu hincwm gwario i helpu i wrthweithio tlodi pobl mewn swyddi â chyflogau isel a sicrhau y darperir addysg a gofal plant cynnar o ansawdd i hyrwyddo datblygiad plant a'u paratoi ar gyfer addysg gynnar.

"Buom yn gweithio'n ddi-flino gyda Llywodraeth Cymru i lobio a, i deuluoedd yn y sir elwa ar y cynnig cyn gynted â phosibl ac mae'n amlwg yn talu ar ei ganfed, gyda chymaint o blant yn elwa o'r cynllun.

"Byddwn yn parhau i hyrwyddo'r cynllun, er mwyn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ba bryd a sut y gallant wneud cais."

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn chwarae rôl 'awdurdod ymgysylltu' a bydd yn rhannu gwybodaeth ac yn hyrwyddo'r cynnig i rieni / gwarcheidwaid.

I gael gwybodaeth am y meini prawf cymhwyso ac i wneud cais ar-lein, ac i weld rhestr o lleoliadau, yn cynnwys rhai sy’n cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg ewch i www.sirddinbych.gov.uk/gofal-plant

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd Sir Ddinbych ar 01745 815891.