BU Jane Jones, cogydd Ysgol Twm o’r Nant yn Ninbych, yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth Cogydd Ysgol y Flwyddyn yng Nghymru yn ddiweddar.

Rwan, bydd Jane yn paratoi i gynrychioli ei gwlad yn rownd derfynol y gystadleuaeth yn Stratford Upon Avon ddydd Iau, Mawrth 7.

Ar gyfer y rownd derfynol, bydd Jane yn paratoi bwydlen o beli cig, llysiau a dip iogwrt, a pheli cig eidion wedi’i gweini mewn bouche tortilla, cebabs llysiau, tatws rhosmari a dip iogwrt.

I bwdin, bydd Jane yn gweini teisennau brau ffrwythau gyda hufen lafant a bisgedi brau gyda phelen o hufen lafant.

Bydd yr enillydd cenedlaethol yn ennill gwobr £1,000, tarian Cogydd y Flwyddyn a chyfle i fynychu digwyddiadau arlwyo a thaith profiad gwaith.

Meddai Jane: "Rydw i'n synnu'n llwyr fy mod wedi bod yn hyn o beth, ond rwy'n falch o'r her ac rwy'n gwerthfawrogi'r holl gefnogaeth a gefais gan fy nghydweithwyr yn Sir Ddinbych, yn Ysgol Twm o'r Nant ac yn y gymuned.

"Rydw i am ddod â blas o Gymru i'm prydau trwy gael bisgedi bach ar ffurf draig Gymreig.

"Rwy'n hynod o nerfus, ond rwyf hefyd yn edrych ymlaen ato. Ymlaen a’r her!”