FEL rhan o fis Mawrth Menter Cyngor Sir Ddinbych, mae cynhyrchwyr bwyd o Sir Ddinbych yn gwahodd gwestywyr, cogyddion, siopau bwyd a’r rhai yn y diwydiant croeso i ddysgu mwy am yr holl gynnyrch lleol sydd ar eu stepen drws.

Mae Blas Lleol - Cwrdd â’r Cynhyrchwyr 2019 yn cael ei drefnu gan Glwb Bwyd Da Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy a grwp Bwyd a Diod Bryniau Clwyd, mewn cydweithrediad â chynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

Bydd y digwyddiad ar Mawrth 12 yng Nghastell Rhuthun yn cynnig cyfle i brynwyr bwyd flasu cynnyrch bwyd a diod o'r rhanbarth cyfan.

Dywedodd y Cyng Hugh Evans, arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Mae gennym gynhyrchwyr bwyd gwych yn Sir Ddinbych ac rydym am eu helpu i hyrwyddo eu hunain ac ehangu eu busnesau.

"Dengys ymchwil bod dros 80 y cant o brynwyr yng Nghymru eisiau gweld mwy o fwyd a diod o Gymru yn y siopau tra bo dros 44 y cant yn fodlon talu mwy am gynnyrch Cymreig.”

Bydd stondinau cymorth busnes yn y digwyddiad hefyd.

Mae Blas Lleol - Cwrdd â’r Cynhyrchwyr yn rhan o Fis Mawrth Menter, sef mis busnes blynyddol Cyngor Sir Ddinbych gyda 25 o ddigwyddiadau gwahanol sy’n cynnig bron i 100 awr o gynnwys mewn lleoliadau ar draws y sir.

Gall prynwyr bwyd a defnyddwyr megis caffis, siopau, tafarndai, gwestai gwely a brecwast a bwytai gofrestru i fynychu drwy www.denbighshire.gov.uk/cy/busnes/cyngor-a-chymorth-busnes/mawrth-busnes.aspx