BYDD côr meibion sydd wedi bod yn ymddangos ar gystadleuaeth gorawl deledu yn perfformio i ddiddanu cynulleidfa mewn cyngerdd yn Rhuthun ar Ebrill 12.

Bydd Côr Meibion John’s Boys, sydd wedi bod yn canu ar y rhaglen ‘Côr Cymru’ ar S4C, yn canu yn Theatr John Ambrose i hel arian tuag at Gwyl Rhuthun ac Apêl Rhuthun – Eisteddfod yr Urdd 2020.

Mae’r côr bellach yn paratoi ar gyfer rownd derfynol Côr Cymru lle byddant yn cystadlu am y tlws Côr Cymru, gwobr o £4,000 a’r cyfle i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Côr y Flwyddyn Eurovision a fydd yn ei gynnal yn Sweden yn mis Gorffennaf.

Meddai eu harweinydd Aled Phillips: "Rydym wedi bod yn brysur iawn yn paratoi ar gyfer Cystadleuaeth Côr Cymru am amryw o fisoedd bellach, a mae corau arbennig o safonol yn y rownd derfynol, ond rydym yn hoffi y sialens a cawn weld ar y noson!"

Cafodd John’s Boys ei ffurfio yn 2016 i ganu mewn digwyddiad lleol yn Rhosllanerchrugog, ond bellach wedi tyfu i fod yn cystadlu mewn digwyddiadau a chystadlaethau mawr megis Côr BBC y Flwyddyn (cyrraedd y rownd derfynol yn 2016), Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Cystadleuaeth Gorawl Amatur Manceinion (ail safle yn 2018), ac wrth gwrs Côr Cymru yn 2017 a rwan yn 2019.

Er fod rhai o unawdwyr ymhlith y côr yn perfformio yn ystod y cyngerdd, bydd Gwen Elin, soprano o Ynys Môn, hefyd yn perfformio.

Mae Gwen wedi perfformio ar lwyfannau ar draws Cymru gan ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2015, a wedi actio rhan Lisa yn ‘Rownd a Rownd’ ar S4C yn y gorffennol.

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i groesawu John’s Boys a Gwen Elin i Ruthun i’n diddanu yn y cyngerdd," meddai is-gadeirydd pwyllgor Gwyl Rhuthun Jim Bryan.

Bydd Gwyl Rhuthun eleni yn rhedeg rhwng Mehefin 22-30 ac mae rhaglen arbennig wedi ei drefnu i ddathlu 25 mlynedd ers sefydlu’r wyl.

Bydd y digwyddiad poblogaidd Top Dre ddydd Sadwrn 29 Mehefin yn cynnwys Bryn Fôn a’r Band, Candelas, Skariad a Bwncath, a llawer mwy.

Mae’r cyngerdd ar Ebrill 12 yn cychwyn am 7.30yh.

Tocynnau, yn £10 i oedolion a £5 i blant, ar gael o Siop Elfair yn Rhuthun drwy ffonio 01824 702575.