MAE Magi Ann yn prysur ddod yn un o hoff gymeriadau plant bach Cymru ac mae hi ar daith yn Sir Ddinbych dros yr wythnosau nesaf.

Mae cenedlaethau o blant wedi dysgu darllen gyda llyfrau du a gwyn Magi Ann ers y 70au, ond erbyn heddiw mae’r straeon ar gael wedi’u animeiddio ar chwech o apiau.

Diolch i gydweithrediad Cymraeg i Blant a Grwp Cynefin, mae Menter Iaith yn mynd â Magi Ann i gyfarfod criwiau newydd o blant bach a’u rhieni yn llyfrgelloedd y sir, yn cychwyn ddydd Gwener yma ym Mhrestatyn (10.30am) a Dinbych (1.30pm).