AR ddydd Sadwrn y 23ain o Fawrth, daeth y gymuned leol ac ymwelwyr at ei gilydd i gymryd rhan yn ‘Deffro Cawr Corwen’.

Roedd dros 200 o bobl yng Nghorwen i gynorthwyo i ddeffro'r cawr a gweld crefft celf yn cael ei chreu trwy gyfres o ffrwydradau.

Cafodd ymwelwyr eu harwain i fyny i Pen-y-Pigyn a’u cyfrifoldeb oedd deffro Drewyn trwy wneud cymaint o swn â phosibl gyda chlychau eglwys, chwibanu a chanu.

Unwaith yr oedd Drewyn yn effro, gwelwyd cyfres o ffrwydradau ar draws y dirwedd gan greu'r cysyniad a'r ddelwedd o draed mawr, ac yna amlinelliad mawr Drewyn yn ymddangos yn Nôl Corwenna yng nghanol Corwen wrth iddo orwedd yn ôl.

Bydd y gwaith celf yn cael ei blannu gyda gwahanol flodau gwyllt.

Anogir ymwelwyr i fynd i Ben-y-Pigyn i weld y gwaith celf lle byddant hefyd yn gallu darganfod y gwrthrychau enfawr a adawyd gan Drewyn ar y daith.