ROEDD hi’n 1967, a gyda cherddoriaeth roc yn ffynnu dros y ffin yn Lloegr a ledled y byd, roedd newid ar droed yma yng Nghymru.

Daeth y band roc, Y Blew, ar y sin fel chwyldro, gan weddnewid tirwedd gerddorol Cymru fel y grwp cyntaf oedd yn canu cerddoriaeth roc yn y Gymraeg.

Denodd y band sylw cenedlaethol, gan ddechrau’r chwyldro sydd hyd heddiw yn cael ei alw yn y sin roc Gymraeg.

A ninnau nawr yn 2019, mae’r sin yn byrlymu o’n cwmpas o hyd.

Yn sin amrywiol, cyffrous, mae hi’n draddodiad sy’n mynnu sylw arbennig un o enwau cerddorol amlycaf Cymru, Prydain a thu hwnt.

Yn Gymro, yn gyflwynydd, DJ a cherddor, Huw Stephens aeth ar bererindod gerddorol o Gymru i nodi hanner can mlynedd ers i glustiau’r byd glywed cerddoriaeth roc Gymraeg am y tro cyntaf.

Cynhyrchiad ei bererindod ydi Anorac, ffilm sy’n peintio darlun o sin cerddorol Gymraeg ddoe a heddiw Cymru.

Gyda’r ffilm eisoes wedi ei darlledu mewn sinemâu ledled Cymru, bydd cyfle i wylwyr S4C brofi’r gampwaith gyda darllediad arbennig o Anorac ar y sianel nos Iau, Ebrill 4 am 9.30pm.

Yn enw adnabyddus yn genedlaethol fel cyflwynydd radio, mae Huw wedi cyfrannu’n ddiflino i gefnogi cerddoriaeth o Gymru.

Ymhlith rhai o’i gyfraniadau i’r diwylliant cerddorol mae sefydlu Gwyl Swn yng Nghaerdydd a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, heb sôn am y gefnogaeth mae wedi rhoi i gerddorion o Gymru ar donfeddi ar ei raglenni ar Radio 1, Radio 6 Music a Radio Cymru.

Gyda dim ond anorac felen ar ei gefn, dogfennwyd crwydr Huw o Gaerdydd i Geredigion ac o Glwyd i Gaernarfon wrth iddo adrodd chwedl gerddorol yr iaith drwy seiniau ein cerddorion amrywiol o bob cornel o’r wlad.

Diddordeb mewn cerddoriaeth, diddordeb yn y Gymraeg neu ddiddordeb yng Nghymru – mae Anorac yn ffilm hanesyddol ond eto’n gyfoes, sydd am roi blas i wylwyr o bob math o ddiwylliant gyfoethog Cymru, Gwlad y Gân. Gwyliwch, nos Iau yma, am 9.30.

Bydd Anorac ar gael i’w gwylio yn rhyngwladol ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill am 150 diwrnod wedi’r darllediad ar Ebrill 4.