CYNHELIR achlysur heno i lansio cyfrol o farddoniaeth gan Eifion Lloyd Jones o Brion, ger Dinbych, yng Nghlwb Golff Dinbych.

Mae’r gyfrol “A Chawsom Iaith...” yn cynnwys cerddi amrywiol o delynegion, sonedau, englynion a cherddi rhydd, yn ogystal â phenillion ysgafn a cherddi yn iaith y Co Bach.

Ynddi hefyd ceir detholiad o ganeuon a luniodd Eifion ac a recordiwyd gan ei wraig, Leah Owen.

Bydd Leah a’u meibion, Ynyr a Rhys, yn canu ychydig o’r caneuon ar y noson, gydag Eifion a’u merched, Angharad ac Elysteg, yn darllen rhai o’r cerddi.

Gwahoddir pawb i’r lansiad am 6.30 yr hwyr, heno - nos Fercher, Ebrill 3 - yn y clwb golff lle bu Eifion yn gapten chwe blynedd yn ôl.

Gan ei fod hefyd yn Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, bydd holl freindal gwerthiant y gyfrol yn cael ei gyfrannu gan Eifion at goffrau’r Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir ddechrau Awst eleni yn Sir Conwy.

Cyhoeddir y gyfrol gan Wasg Carreg Gwalch yn Llanrwst a bydd ar werth ar y noson am £7.50 gan Siop Clwyd, Dinbych.