MAE pwyllgor Gwyl Rhuthun wedi cyhoeddi eu leinyp o artistiaid ar gyfer y digwyddiad poblogaidd Top Dre ar Sgwâr San Pedr.

Bydd Gwyl Rhuthun eleni yn rhedeg o’r 22ain i’r 30ain o Fehefin a mae rhaglen arbennig wedi ei drefnu.

Bydd Top Dre ar ddydd Sadwrn, Mehefin 29 gyda artistiaid megis Bryn Fon a’r Band, Candelas, Skariad a Bwncath ymhlith yr arlwy.

"Rydym hynod o falch o gael bandiau mor boblogaidd a safonol yn y leinyp eleni ar gyfer ein penblwydd fel gwyl yn 25, gyda Bryn Fon a Candelas yn hynod adnabyddus, ac Elidyr Llywelyn o Bwncath wrth gwrs wedi ennill Can i Gymru yn ddiweddar," medd is-gadeirydd pwyllgor yr wyl Jim Bryan.

Mae’r wyl hefyd yn edrych ymlaen at gyngerdd gyda Côr Meibion John’s Boys ar Ebrill 12 yn Theatr John Ambrose, gyda’r côr wedi bod yn canu ar y rhaglen ‘Côr Cymru’ ar S4C.

Ar ôl ennill eu categori, mae’r côr bellach yn paratoi ar gyfer rownd derfynol Côr Cymru, a fydd yn fyw ar S4C ar Ebrill 7.

Bydd y soprano Gwen Elin hefyd yn canu yn cyngerdd.

Mae’r cyngerdd yn cychwyn am 7.30yh.

Mae tocynnau yn £10 i oedolion a £5 i blant, ac ar gael o Siop Elfair (01824 702575).

Elw tuag at Gwyl Rhuthun ac Apel Rhuthun – Eisteddfod yr Urdd 2020.