GYDA thros tair miliwn o bobl dros 75 mlwydd oed yn y Deyrnas Unedig yn byw ar eu pennau eu hunain, bydd rhaglen deledu yn dilyn tri pherson hyn dros gyfnod o flwyddyn wrth iddyn nhw frwydro i gadw eu hannibyniaeth.

Yn y rhaglen gyntaf yn y gyfres Drych ar S4C, mae'r camerâu’n dilyn tri chymeriad hynod annibynnol sy'n benderfynol o fyw yn eu cartrefi eu hunain cyhyd â bod hynny’n ymarferol bosibl.

Portread o'r tri a'u teuluoedd wrth iddynt geisio mynd i'r afael â heriau wrth heneiddio.

Drych: Dal i Fynd, ar nos Sul, Ebrill 14 am 9pm.