FEL rhan o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn Ninbych er mwyn coffáu diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, yn ogystal â digwyddiadau eraill, penderfynwyd y dylid cynhyrchu llyfr.

Roedd hyn er budd pobl ifanc yr ardal gan fwyaf er mwyn cynnig cipolwg iddyn nhw o sut bu i’r rhyfel effeithio ar eu tref.

Bu i Grwp Digwyddiadau Dinbych, o dan arweiniad y Faeres Catherine Jones, gomisiynu Grwp Archif Cymunedol Dinbych i gyflawni’r gwaith gyda help cyfran o’r grant y bu iddyn nhw ei dderbyn gan Gronfa’r Loteri Treftadaeth.

Diben y llyfr – “Y Rhyfel Mawr a Dinbych – Amser o Newid” – oedd ysgogi pobl ifanc i ymchwilio ymhellach i effeithiau’r rhyfel ar Ddinbych.

Bu i’r llyfr hefyd osod sawl cwestiwn i’r bobl ifanc eu hystyried ynghylch sut bu i’r rhyfel newid bywydau pobl a’r ardal roedden nhw’n byw ynddi.

Caiff y llyfrau eu rhoddi i ddechrau i ysgolion a grwpiau cymunedol eraill a bydd y rhai sy’n weddill ar gael i drigolion Dinbych.

Dyma oedd cyhoeddiad cyntaf Grwp Archif Cymunedol Dinbych ac fe’i cynhyrchwyd yn defnyddio’r holl ddeunyddiau wedi eu benthyg a’u rhoddi i’r grwp yn ystod y deng mlynedd diwethaf gan gynnwys lluniau, llyfrau, gwybodaeth a straeon, taflenni, ffilmiau a sain.