CYNHALIWYD diwrnod gwaith maes Clybiau Ffermwyr Ifanc Clwyd yng Ngholeg Llysfasi ar ddydd Sul, Ebrill 7, diolch i gydweithrediad y coleg a’r holl stiwardiaid gwirfoddol.

Chwitffordd oedd â’r marciau uchaf ar ddiwedd y diwrnod, hefo Betws yn Rhos a Nantglyn yn gydradd ail a Cilcain yn drydydd.

Canlyniadau:

Stocman iau y flwyddyn: 1, Gethin Williams (Nantglyn); 2, Idris Williams (Betws yn Rhos); 3, Nedw Clwyd (Llannefydd); 4, Gruff Edwards (Uwchaled).

Tîm iau: Nantglyn.

Stocman hyn: 1, Dafydd Davies (Nantglyn); 2, Sion Eilir Roberts (Rhuthun); 3, Gwenno Davies (Uwchaled); 4, Dion Edwards (Uwchaled).

Tîm hyn: Nantglyn.

Ffensio hyn: 1, Betws yn Rhos; 2, Nantglyn; 3, Chwitffordd.

Ffensio iau: 1, Betws yn Rhos; 2, Nantglyn; 3, Chwitffordd.

Sgiliau Gweithdy: 1, Cilcain; 2, Betws yn Rhos; 3, Chwitffordd.

Fferm Ffactor iau: 1, Iestyn Thomas a Harri Roberts (Nantglyn); 2, Eben Pierce a Meilir Lloyd (Nantglyn); 3, Wil Jones a Sean Jones (Chwitffordd).

Arddangosfa ciwb: 1, Chwitffordd; 2, Llangollen; 3, Betws yn Rhos.

Ocsiwn ffug: 1 Sion Eilir Roberts (Rhuthun); 2, Dafydd Williams (Cilcain); 3, Idris Williams (Betws yn Rhos).