DDYDD Llun, Ebrill 1, dechreuodd Aled Roberts yn ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg.

Ac am y tri mis nesaf bydd yn teithio hyd a lled Cymru i gyfarfod â phobl ac i ddeall beth yw eu profiadau o ddefnyddio’r Gymraeg.

Aled Roberts yw’r ail i ddal swydd y comisiynydd, yn dilyn saith mlynedd Meri Huws wrth y llyw.

Mae’n gyn Aelod Cynulliad (2011-16) ac wedi gweithio fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ar ddatblygu cynlluniau addysg Gymraeg.

Gan dynnu o’i brofiad personol gyda’r Gymraeg, mae’n awyddus i ddeall beth sy’n cymell pobl sy’n medru siarad Cymraeg i ddefnyddio’r iaith, neu beidio gwneud hynny, yn eu bywydau bob dydd.

Dywedodd: “Fe ges i’n magu ar aelwyd Gymraeg ei hiaith yn Rhos; ond Saesneg oedd iaith fy addysg.

"Er bod fy nghriw ffrindiau yn gallu siarad Cymraeg, Saesneg oedden ni’n ei siarad efo’n gilydd.

"Nid tan imi ddod adref ar ôl treulio tymor cyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth y sylwais ein bod ni’n colli allan ar gymaint drwy beidio â siarad Cymraeg efo’n gilydd; ac felly mi wnaethon ni benderfyniad un noson i droi i siarad Cymraeg efo’n gilydd o hynny ymlaen.

"Doedd hi ddim yn hawdd newid, ac mi gymerodd ychydig fisoedd i ni ddod i arfer; ond mi oedd hi’n bosib, a Chymraeg ydyn ni wedi ei siarad efo’n gilydd byth wedyn.

“Rydyn ni i gyd eisiau gweld sefyllfa’r Gymraeg yn cryfhau a gwireddu’r weledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

"Fel comisiynydd, rydw i eisiau deall beth yw’r rhwystrau sy’n atal pobl, a phobl ifanc yn benodol, rhag dewis defnyddio’r Gymraeg er mwyn gweld sut gallwn ni weithio efo’n gilydd i oresgyn y rhwystrau yma.

"Rydw i hefyd eisiau clywed beth yw profiadau pobl wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith ac wrth ddefnyddio gwasanaethau.”

Dros y misoedd nesaf, bydd Aled Roberts yn mynd ar daith i gwrdd â phobl ar hyd a lled Cymru er mwyn deall beth yw realiti’r sefyllfa.

Bydd yn defnyddio profiadau go iawn pobl i lywio’i waith o ran cryfhau sefyllfa’r Gymraeg.

Dywedodd: “Mi fydda i’n ymdrechu i ymweld â gymaint o gymunedau â phosib yn ystod y tri mis nesa.

"Ond os oes rhywun yn aelod o grwp neu gymdeithas leol, ac awydd fy ngwahodd i draw am sgwrs, yna hoffwn eu hannog nhw i gysylltu trwy ebost post@comisiynyddygymraeg.cymru."