FEL rhan o ddathliadau pen-blwydd Dewin a Doti yn 10 oed eleni, fe osododd Mudiad Meithrin sialens i bawb trwy Gymru i wisgo piws Ddydd Mercher, Ebrill 10 gan anelu i gael 10,000 o bobl yn cymryd rhan i greu Parti Piws Mwyaf y Byd!

Mae’r mudiad yn falch o gyhoeddi ei fod wedi chwalu’r targed o 10,000 gan i 12,500 o bobl (gan gynnwys un ceffyl!) gymryd rhan yn y ‘parti’ ar draws Cymru!

Lansiwyd cymeriadau Dewin a Doti gan y mudiad yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009.

Mae Dewin a Doti yn byw yn y Balalwn fawr yn uchel yn yr awyr, ac maent wrth eu boddau’n clywed plant bach yn siarad Cymraeg ac yn gwibio i lawr o’r Balalwn i chwarae gyda’r plant bach yn y Cylchoedd Meithrin i’w helpu a’u hybu i siarad Cymraeg.

Cynhelir nifer o ddigwyddiadau eraill i ddathlu pen-blwydd Dewin a Doti yn ystod yr haf gan gynnwys y Pasiant Meithrin ar y thema ‘Pen-blwydd Dewin a Doti’ a berfformir gan blant y cylchoedd yn ardal Caerdydd a’r fro ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar Mehefin 1 ym Mae Caerdydd, a Phasiant Meithrin ar y thema ‘Dathlu’ ar lwyfan pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst ar fore Ddydd Mercher, Awst 7.

Bydd Heini (cymeriad hoffus sydd â rhaglen ar Cyw) hefyd yn perfformio sioe newydd sbon fel rhan o daith Gwyl Dewin a Doti a gynhelir rhwng Mehefin 10-29.