MAE busnesau ledled Cymru yn cymryd rhan mewn ymgyrch gan Lywodraeth Cymru i rannu eu rhesymau dros ddefnyddio Cymraeg.

Mae’r ymgyrch #CanMilRheswm yn annog perchnogion busnes i helpu i ysbrydoli eraill i ddechrau defnyddio'r Gymraeg gan annog sgwrs am fanteision y Gymraeg i fusnesau.

Mae 100,000 o fentrau bach i ganolig wrth graidd economi Cymru, ac mae pob un yn cael y cyfle i brofi effaith gadarnhaol y gallai defnyddio ychydig o Gymraeg ei gael.

I helpu’r busnesau bach hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio prosiect Cymraeg Byd Busnes yn 2017 sy’n cynnig cyngor rhad ac am ddim, wedi’i deilwra at ddefnyddio Cymraeg yn eu busnes.

Drwy gynnig y gwasanaeth, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio bydd mwy o berchnogion busnes yn dechrau meddwl am sut y gallai Cymraeg ddod yn fwy amlwg yn eu busnesau, gan roi’r cyfle i bobl ddefnyddio Cymraeg yn eu cymunedau - a’r cyfan yn cefnogi gweledigaeth strategaeth Cymraeg 2050 sy’n anelu at gyflawni miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Fel rhan o’r prosiect, mae swyddogion Cymraeg Byd Busnes wedi’u lleoli yng nghalon cymunedau ar draws Cymru i helpu busnesau ar lawr gwlad.

Eich swyddog busnes lleol ar gyfer yr ardal ydy Nia Morris.

Dywedodd Nia: “Mae’r prosiect Cymraeg Byd Busnes yn ffordd wych o helpu busnesau bach allu dechrau defnyddio’r Gymraeg, a chymryd camau bychain.

"Gallwn ni fel swyddogion helpu busnesau datblygu eu gwasanaeth Gymraeg drwy gwrdd â pherchnogion a chreu cynllun sy’n gweddu i’r busnes hwnnw.

“Mae croeso i unrhyw un gyda diddordeb gysylltu gyda mi i weld sut alla’i helpu a dwi’n awyddus i weld sut gallwn ddatblygu gwasanaethau Cymraeg yma.”

Os ydych yn berchennog busnes bach sy'n defnyddio Cymraeg, cymrwch ran yn yr ymgyrch drwy rannu eich rheswm chi dros ddefnyddio’r Gymraeg gyda’r hashnod #100kRheswm ar gyfryngau cymdeithasol.

I gael gwybod sut i fanteisio ar gymorth rhad ac am ddim gan y prosiect Cymraeg Byd Busnes, ewch i’r wefan www.cymraeg.llyw.cymru/business

Mae’r prosiect Cymraeg Byd Busnes yn cynnig cefnogaeth i fusnesau bach a chanolig eu maint i ddatblygu gwasanaethau yn y Gymraeg.

Lleolir swyddogion ledled Cymru ac maent yn gallu cefnogi busnesau drwy gynnig cyngor ar sut i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu busnes, nwyddau dwyieithog defnyddiol, gwasanaeth cyfieithu, marchnata datblygiadau'r busnesau gyda’r Gymraeg a chyfeirio at wasanaethau eraill megis gwersi Cymraeg i staff.