MAE gwahoddiad ar draws Sir Ddinbych i drigolion cymwys gofrestru eu diddordeb mewn symud i gynllun tai gofal ychwanegol gwerth £12m.

Mae'r diddordeb sydd eisoes wedi ei ddangos yn Awel y Dyffryn, Dinbych, fel bod Grwp Cynefin, y gymdeithas tai sydd tu ôl i'r cynllun 66-fflat, wedi annog darpar denantiaid i gofrestru eu diddordeb yn gynt na’n hwyrach er mwyn peidio â cholli cyfle. Disgwylir i'r gwaith adeiladu ar safle'r hen ysgol Lôn Ganol ddod i ben yng nghanol 2020.

Cynhelir diwrnod gwybodaeth yn Amgueddfa Dinbych, ar Lôn Goch (Grove Road) ddydd Mercher, Mai 15 rhwng 2pm a 7pm.

Rhoddir blaenoriaeth i drigolion Sir Ddinbych sy'n 60 oed a throsodd.

Bydd Awel y Dyffryn yn diwallu anghenion pobl hyn sydd eisiau byw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, ond gyda gofal a chymorth ar gael 24 awr, pe bai angen.

Bydd staff Grwp Cynefin a Chyngor Sir Ddinbych wrth law yn ystod y diwrnod agored, i egluro manylion am y fflatiau, am ystafelloedd a chyfleusterau cymunedol, y gwasanaethau a gynigir, a hefyd sut i wneud cais ar gyfer fflat.

Awel y Dyffryn yw pumed cynllun gofal ychwanegol Grwp Cynefin.

Mae’r cynlluniau eraill wedi hen sefydlu, yn y Bala, Caergybi, Rhuthun a Phorthmadog.

Bydd y llety yn cynnwys 42 o fflatiau dwy ystafell wely a 24 o fflatiau un ystafell wely.

Mae Awel y Dyffryn yn brosiect ar y cyd rhwng Grwp Cynefin a Chyngor Sir Ddinbych, gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd prif weithredwr Grwp Cynefin Shan Lloyd Williams: “Bydd Awel y Dyffryn yn helpu i ddiwallu anghenion tai â chymorth trigolion hyn a bregus yn y sir.

"Rai blynyddoedd yn ôl, addawodd Grwp Cynefin ddarparu mwy na dim ond tai i denantiaid.

"Felly byddwn hefyd yn cynnig llawer o wasanaethau, digwyddiadau a gweithgareddau, i helpu i gefnogi iechyd a lles o fewn y gymuned ehangach.”

Meddai pennaeth gwasanaethau tai Noela Jones: “Mae ychwanegu datblygiad tai newydd o ansawdd uchel yn chwa o awyr iach i ganol tref Dinbych, safle lle'r oedd yr hen adeilad ysgol ramadeg wedi bod yn dirywio ers nifer o flynyddoedd.”

Dywedodd Phil Gilroy, pennaeth gwasanaethau cefnogaeth cymunedol Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Grwp Cynefin ar y prosiect hwn a fydd yn darparu tai o safon yn ogystal â chefnogi lles preswylwyr.”

Am fwy o wybodaeth ewch i www.grwpcynefin.org