MAE Rhuthun wedi cael statws Tref Croesawu Bysiau gan y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr (CPT) yn ddiweddar.
Mae’r dref yn ymuno â dim ond llond llaw o lefydd sydd wedi derbyn y statws yng Nghymru.
Meddai Heather Williams, cynghorydd tref Rhuthun a chadeirydd y gweithgor wedi’i sefydlu i gyflawni’r statws hwn: “Ychydig flynyddoedd yn ôl aeth cynrychiolwyr o gynghorau tref / dinas Sir Ddinbych ar siwrnai addysgol i Fetws-y-Coed.
"Tra yno cafwyd, trafodaethau ynglŷn â sut y mae Sir Conwy wedi cyflawni statws croesawu bysiau ar gyfer tair tref.
"Yn dilyn yr ymweliad fe sefydlwyd gweithgor i asesu sut y gallai Rhuthun gwrdd â’r meini prawf angenrheidiol i ennill statws croesawu bysiau er mwyn atynnu mwy o deithiau bws i'r dref hanesyddol a deniadol hon.”
Y meini prawf ar gyfer derbyn statws croesawu bysiau yw cynnwys arwyddion clir i fysiau sy’n ymweld, digonedd o lefydd parcio i fysiau, cyfleusterau i grwpiau a gwefan yn darparu gwybodaeth i grwpiau bysiau.
Ychwanegodd Cyngor Tref Rhuthun wybodaeth ychwanegol i’w gwefan ar atyniadau a llwybrau / teithiau i gwmnïau bysiau/trefnwyr grwpiau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar www.visitruthin.wales/cy/gwybodaeth-am-rhuthun
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here