ROEDD aelodau CFfI Clwyd yn cymryd rhan yng nghystadleuethau gwaith maes Cymru yn Sir Benfro y penwythnos diwethaf.

Daeth tîm ffensio hyn o Betws yn Rhos yn ail ac fe ddaeth Dafydd Williams o Cilcain yn ail yng nghystadleuaeth ffug ocsiwn.

Daeth Clwyd fel sir yn chweched drwy Gymru.

Cafodd y digwyddiad eu noddi gan faes y sioe wrth ddarparu lleoliad, ynghyd a nifer o fusnesau lleol wrth ddarparu eu stoc a’u peirianwaith ar gyfer y cystadlaethau amrywiol.

Trwy gydol y dydd bu pobl ifanc o bob cwr o Gymru yn cystadlu mewn cystadlaethau a chysylltiadau agos a’r diwydiant amaethyddol a sgiliau gwledig, ac yn arddangos sgiliau yn cynnwys yr her ffensio, barnu stoc a threialon cwn defaid.