DDYDD Sadwrn diwethaf (Mai 11) cynhaliwyd rownd gynderfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn Oriel Mostyn, Llandudno, gyda phedwar ymgeisydd yn cyrraedd y brig ac yn cael y cyfle i gystadlu am wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Y rheini a ddaeth i’r brig eleni oedd Fiona Collins o Garrog, ger Corwen; Paul Huckstep o Benmachno; Grace Emily Jones o Lanfihangel Glyn Myfyr; a Gemma Owen o Faenan, Llanrwst.

Y beirniaid eleni yw Daloni Metcalfe, Janet Charlton ac Emyr Davies, a chafodd y tri gyfle i sgwrsio a chael gwybod mwy am bob un o’r ymgeiswyr eleni cyn dod i benderfyniad ar ddiwedd diwrnod llawn gweithgareddau hwyliog ar gyfer y teulu cyfan yn yr Oriel.

Roedd y safon yn uchel ac meddai Trefor Lewis, cadeirydd pwyllgor dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.

Dywedodd: “Roedd yn hynod braf croesawu criw arbennig o ddysgwyr i Landudno dros y penwythnos ar gyfer y rownd gynderfynol, gyda’r safon yn arbennig o uchel eleni.

“Rydym yn ddiolchgar i bawb a fu’n rhan o’r gystadleuaeth, ac edmygu’u gwaith caled a’u dyfalbarhad wrth ddysgu’r Gymraeg.

"Mae’r gystadleuaeth hon mor eithriadol o bwysig os ydym ni am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac ar sail y safon eleni, mae’n amlwg bod y sector dysgu Cymraeg yn mynd o nerth i nerth yma yng Nghymru, gyda chanlyniadau gwych i’w gweld mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad.”

Bydd yr enillydd yn derbyn tlws arbennig, yn rhoddedig gan Gari Bryn Jones, Pentrefoelas, a £300 (Soroptimist Rhyngwladol Llandudno), a bydd y tri arall sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tlysau, sydd hefyd yn rhoddedig gan Gari Bryn Jones, Pentrefoelas, a £100 yr un, gyda’r arian wedi’i gyflwyno gan Gangen Merched y Wawr Capel Garmon, Gwawr Dafydd, Conwy a Changen Merched y Wawr Penmachno.

Bydd y rheini sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr. Bydd yr enillydd hefyd yn cael ei g/wahodd i fod yn aelod o’r Orsedd.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy o Awst 3-10.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.eisteddfod.cymru.

Cynhelir seremoni Dysgwr y Flwyddyn ar lwyfan y Pafiliwn, nos Fercher Awst 7, a chyhoeddir rhagor o fanylion yn fuan.