CYNHELIR Noson Lawen ym Marchnad Rhuthun nos Wener, Mai 24 i ddechrau penwythnos o ddigwyddiadau i gasglu arian at Clwyd 2020 - y flwyddyn bydd Clwyd yn Sir Nawdd y Sioe Frenhinol.

Y digrifwr Dilwyn Pierce fydd yn arwain y noson a’r artistiaid yn diddanu fydd Sion Eilir, Elis Jones, Dafydd Jones, Cadi Mars Jones, Sian a Sian, a Chôr Meibion Llangwm.

“Mae aelodau CFfI Clwyd yn falch iawn o fod yn rhan o’r fenter codi arian at Sioe Frenhinol Cymru 2020,” meddai Eleri Roberts, trefnydd CFfI Clwyd.

“Bydd y penwythnos yn dechrau hefo’r cyngerdd ac yna ymlaen i Ddydd Sadwrn ble bydd aelodau yn brysur iawn hefo’r cystadleuaeth trimio oen a’r cneifio cyflym a fydd yn cael ei ddilyn hefo disgo gan Mic ar y Meic ar y nos Sadwrn.

"Bydd aelodau’r mudiad hefyd yn helpu hefo’r cinio Dydd Sul.”

Yn ystod y penwythnos, bydd Gwyl Wledig ar y dydd Sadwrn gyda taith tractor, gwyl fwyd a chrefftau, cneifio alpaca, sioe gwn a gweithgareddau i’r plant.

Yn dilyn hyn am 4 o’r gloch bydd cneifio cyflym ac adloniant gan Mic ar y Meic gyda’r nôs, ac yna sel cist car a chinio Sul ar y Dydd Sul.

Mae tocynnau’r noson lawen yn £10 i oedolion, £5 i blant ac ar gael yn Elfair Rhuthun a Siop Clwyd Dinbych.

Am fanylion pellach ewch i www.clwyd.com