DDYDD Sadwrn yma, Mai 18 bydd Menter Iaith Conwy a chwmni Mewn Cymeriad yn cyflwyno sioe hwyliog yn dod a stori hanesyddol o oes Llywelyn Fawr yn fyw i deuluoedd, fel rhan o ddigwyddiad Dathlu Treftadaeth Llanrwst.

Mae’r Fenter Iaith wedi comisiynu’r sioe un-dyn gan gwmni Mewn Cymeriad er mwyn codi ymwybyddiaeth o gysylltiad cyn dywysog Cymru ag ardal Llanrwst.

Mae’r cydweithio diweddaraf yn ychwanegu i’r berthynas dda sydd rhwng cwmni Mewn Cymeriad a’r Mentrau Iaith, sydd wedi comisiynu a datblygu pum sioe ar y cyd dros y blynyddoedd yn cynnwys un am Kate Roberts, a lansiwyd yn Ninbych yn 2017.

Dywed Eleri Twynog, cyfarwyddwr Mewn Cymeriad: “Rydym yn falch iawn o gydweithio gyda’r mentrau i ddod a chymeriadau lleol yn fyw.”

Bydd y sioe yn dilyn hynt a helynt cymeriad o’r enw Harri Liwt ei Hun, cerddor yn llys Llywelyn Fawr.

Neil ‘Maffia’ Williams fydd yn perfformio’r sioe, sydd wedi ei chreu gan Myrddin ap Dafydd.

Bydd digwyddiad Dathlu Treftadaeth Llanrwst yn binacl prosiect blwyddyn o hyd wedi’i hariannu gan Gyngor Tref Llanrwst, Cronfa Partneriaeth Eryri, Cronfa Loteri Dreftadaeth, Cyngor Conwy a Conwy Cynhaliol trwy arian Ewrop i godi’r ymdeimlad o dreftadaeth yn y dref wrth arwain at groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r cyffiniau.

Dywed Esyllt Tudur Adair, cydlynydd y prosiect: “Wrth groesawu un o ddigwyddiadau mwyaf y calendr diwylliannol, credwn ei fod hi’n bwysig i drigolion lleol wybod am ein treftadaeth a’n hunaniaeth fel y gallwn ei hyrwyddo orau posib pan ddaw gweddill Cymru i’w mwynhau fis Awst. Mae wedi bod yn hyfryd cydweithio gyda Mewn Cymeriad i ddatblygu’r sioe fel rhan o’r diwrnod dathlu.”

Ewch i wefan www.miconwy.cymru am fwy o wybodaeth.