DYMA ni ar drothwy 4ydd cymal Clwb Cwtsh!

Cwrs blasu Cymraeg sydd wedi ei anelu at ddysgwyr newydd ac sy’n canolbwyntio ar iaith magu plant yn y cartref ydi Clwb Cwtsh.

Er mai cwrs ar gyfer rhieni, neiniau, teidiau neu unrhyw un sydd yn dymuno dechrau dysgu Cymraeg, mae croeso mawr i blant fynychu hefyd! Mae hyn yn sicrhau nad ydi gofal plant yn rhwystr i bobl ymuno.

Mae’r sesiynau yn rhai hwyliog, ysgafn ac yn defnyddio canu a gemau gydag amser am baned!

Cyn y Pasg, cafwyd sesiynau llwyddiannus iawn yn Llanelwy a Rhuthun, gyda phob un wedi ymateb yn bositif iawn i Clwb Cwtsh.

“Absolutely amazing!” oedd un sylw.

“The course is ideal for parents to start to learn Welsh, being a new mum the songs really helped as I was able to sing these over the week before next session. Having childcare in the lesson was wonderful as I was able to concentrate on the session and my son was spoken to in Welsh which was great,” oedd sylw arall.

Os ydych chi’n adnabod unrhyw un fyddai’n dymuno dechrau dysgu Cymraeg, dywedwch wrthyn nhw am Clwb Cwtsh.

Byddwn yn dychwelyd i Ruthun a Llanelwy yn ystod mis Mehefin.

Bydd sesiwn Rhuthun yn dechrau ar y 6ed o Fehefin am 1.15-2.30pm yn Llyfrgell Rhuthun a sesiwn Llanelwy yn dechrau ar y 7fed o Fehefin am 10-11.15am yn Llyfrgell Llanelwy.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â clwbcwtsh@meithrin.cymru neu 01970 639639.