CYNHELIR noson i ddathlu addysg cyfrwng Cymraeg mewn ardal wledig nos Iau yma, Mai 23, yng Ngholeg Llysfasi, ger Rhuthun.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg a chyn Aelod Cynulliad (2011-16).

Bu Aled Roberts hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ar ddatblygu cynlluniau addysg Gymraeg.

Siaradwyr eraill fydd Llyr Griffith AC a’r bargyfreithiwr Gwion Lewis.

Gyda phaned a chyfle i holi a sgwrsio, bydd mynediad yn £3 ac elw’r noson yn mynd tuag at Apêl Pentrecelyn a Graigfechan tuag at Eisteddfod yr Urdd 2020.

Bydd y noson yn cychwyn am 6.30yh a thocynnau ar gael wrth y drws.

Os oes unrhyw ymholiadau o flaen llaw ffoniwch 01978 790288.