ROEDD y Farchnad yn Rhuthun yn fwrlwm o ddigwyddiadau dros Wyl y Banc ddiwedd Mai gyda chriw Clwyd 2020, sef Sir Nawdd y Sioe Frenhinol yn 2020, yn cymryd drosodd am benwythnos.
Cafwyd dechrau bendigedig i’r penwythnos gyda’r noson lawen, a’r neuadd yn llawn.
A gwledd i’r glust a gafwyd gyda Cadi Mars Jones, Dafydd Jones, Elis Jones a Sion Eilir yn rhoi perfformiadau arbennig i ni gan gynnwys eitemau unigol yn ogystal a deuawdau a thriawdau.
Roedd Côr Meibion Llangwm yno hefyd i’n swyno gyda rhaglen amrywiol o eitemau, yn ogystal a Sian a Sian yn rhoi eitem difyr iawn gan ‘Lywydd y Sioe’.
Yn cadw trefn ac yn arwain y noson roedd y digrifwr Dilwyn Pierce.
Yn dilyn hyn, fe gafwyd Gwyl Wledig Clwyd 2020 ar y Dydd Sadwrn a braf oedd cael cynifer o stondinau yn y Ffair Fwyd a Chrefftau gyda busnesau a sefydliadau lleol yn cefnogi.
Amser y cneifwyr oedd hi wedyn gyda criw da o gneifwyr yn cystadlu yn y Cylch Gwartheg gyda Guto Hughes yn mynd a hi yn y ffeinal.
Arhosodd nifer ymlaen tan yr oriau man gyda Mic ar y Meic yn chwarae clasuron poblogaidd!
Gorffennwyd y penwythnos gyda’r neuadd unwaith eto yn llawn gyda chinio Sul i 180, gyda nifer wedi teithio i flasu’r cinio o gynnyrch Clwyd.
Diolch i bawb a fu’n helpu a chefnogi yn ystod y penwythnos.
Mae manylion holl ddigwyddiadau Clwyd 2020 ar gwefan www.clwyd2020.com
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here