AR ddiwrnod olaf Eisteddfod Yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019, mae Sian Lewis, prif weithredwr Urdd Gobaith Cymru, wedi diolch i athrawon a hyfforddwyr Cymru am sicrhau bod safon a nifer y cystadlu yn yr Eisteddfod eleni yn uwch nag erioed.

Nhw, meddai, yw ‘asgwrn cefn y mudiad’.

Heb athrawon a hyfforddwyr Cymru yn rhoi o’u hamser, fyddai’r Urdd ddim yr hyn yw e heddiw - sef mudiad blaengar, bywiog a ffyniannus.

"Dros y degawdau, mae athrawon a hyfforddwyr wedi sicrhau bod cenedlaethau o blant a phobl ifanc Cymru wedi elwa o’r Eisteddfod a’r cyfleoedd eraill mae’r Urdd yn eu cynnig trwy gydol y flwyddyn.

"Mae eu cefnogaeth i’r Urdd yn mynd ymhell y tu hwnt i’w dyletswyddau ac yn amhrisiadwy i’r mudiad. Mae’n dyled iddyn nhw’n fawr.”

Wrth i’r wyl ddod i derfyn o dan haul braf ym Mae Caerdydd, cyhoeddodd y trefnwyr bod yr wyl wedi bod yn llwyddiant ysgubol a’u bod wedi croesawu dros 100,000 o ymwelwyr yn ystod yr wythnos.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’n noddwyr a’n partneriaid am eu cefnogaeth ac wrth gwrs i’r holl staff a gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio’n ddi-baid er mwyn sicrhau gwyl lwyddiannus i bawb ei mwynhau. Ymlaen at Sir Ddinbych!”

Eleni, roedd 797 o ganghennau, yn ysgolion, adrannau ac aelwydydd yn cymryd rhan.

Daeth 14,500 o ddarnau o waith celf, dylunio a thechnoleg i law, gyda 70,000 o enwau wedi cofrestru i gystadlu o bob rhan o Gymru a thu hwnt mewn ystod eang o gystadlaethau, o gynllunio dillad i ganu cerdd-dant, o goluro i ddawnsio disgo.

Gwnaethpwyd nifer o gyhoeddiadau gan yr Urdd dros yr wythnos, gyda blas rhyngwladol i lawer ohonynt.

Yn ogystal, cyhoeddwyd cynlluniau cyffrous i droi canolfan yr Urdd Pentre Ifan yn ganolfan treftadaeth ac amgylcheddol ac mai Mistar Urdd fydd masgot swyddogol Tim Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2022!

Bu teilyngdod yn yr holl brif seremonïau, yn eu plith Francesca Sciarrillo o’r Wyddgrug yn ennill Medal y Dysgwyr.

Cyhoeddwyd hefyd enwau’r rhai lwcus fydd yn cael perfformio yng Ngwyl Gymreig Disneyland Paris y flwyddyn nesaf, ac yn eu plith mae Lili Cet Williams, Ysgol Carreg Emlyn (unawd Bl.2 ac iau).

Y flwyddyn nesaf, cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir Ddinbych rhwng Mai 25-30.