DDECHRAU'R mis, croesawodd Mudiad Meithrin y cymeriad byrlymus ac heintus Heini i’w stondin ar faes Eisteddfod yr Urdd i lansio sioe newydd sbon i blant bach Cymru fel rhan o Daith Gwyl Dewin a Doti eleni.

Mae sioe ‘Dathlu Pen-blwydd Dewin a Doti’, sy’n rhan o ddathliadau pen-blwydd 10 oed cymeriadau hoffus Mudiad Meithrin, yn cael ei pherfformio mewn canolfannau ar hyd a lled Cymru fel rhan o Daith Gwyl Dewin a Doti a gynhelir gan y Mudiad o’r wythnos hon ymlaen tan diwedd y mis.

Amcangyfrif bydd Karen Elli, sy’n chwarae rhan Heini, yn diddanu oddeutu 8,000 o blant a’u rhieni mewn mwy na dwsin o leoliadau gwahanol ar draws Cymru yn ystod Taith Gwyl Dewin a Doti.

Mae Heini yn wyneb cyfarwydd i wylwyr ifanc ar y rhaglen o’r enw ‘Heini’ sy’n annog plant bach a’u rhieni i gadw’r heini ar sianel Cyw ar S4C.

Mae’r sioe yn addas i blant sy’n mynychu grwpiau Cymraeg i Blant, Cylchoedd Ti a Fi, Cylchoedd Meithrin, a Meithrinfeydd Dydd y Mudiad. Mae'r daith yn cael ei threfnu gan Mudiad Meithrin gyda chefnogaeth gan S4C.

Bydd y daith yn cyrraedd Venue Cymru, yn Llandudno ddydd Gwener yma (Mehefin 14) a Chanolfan Catrin Finch, Wrecsam ddydd Llun nesaf, Mehefin 17.

Am fanylion llawn am yr amseroedd a’r lleoliadau ewch i wefan www.meithrin.cymru/gwyldewinadoti/