YMHLITH y cyngherddau ar raglen Gwyl Rhuthun eleni - yn ei 25ain flwyddyn - mae cyngerdd arbennig er mwyn codi arian at yr elusen Prostate Cymru a chyngerdd er cof am un o ffyddloniaid yr ardal, Eirwyn Evans.

Bydd y band Ar Log, Côr Dre o ardal Caernarfon a’r unawdydd Scarlett Jones yn perfformio yn Theatr John Ambrose nos Sadwrn yr 22ain o Fehefin er budd Prostate Cymru.

Mae Ar Log yn enwog ers y 70au am eu cerddoriaeth werinol a hwyliog, gyda chyfres o ganeuon hynod o boblogaidd ac wedi gwerthu miloedd o CDs.

Mae Côr Dre yn gôr cymysg a gafodd ei ffurfio yn 2007 gan bobl ifanc, sydd wedi cael llwyddiannau lu, gan gynnwys ennill ‘Côr yr Wyl’ yn yr Wyl Ban Geltaidd yn 2015.

Mae Scarlett Jones, sy’n wreiddiol o Ruthun, ar hyn o bryd yn astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol y Gogledd ym Manceinion.

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn am noson i’w chofio i godi arian at achos haeddiannol iawn," meddai Gwenan Williams, sy’n trefnu’r cyngerdd gyda’i gwr Elwyn.

Mae tocynnau yn £12.50 ar gael yn Siop Elfair neu drwy Elwyn Williams ar 01824 707932.

Yn dilyn marwolaeth Eirwyn Evans, mae cyngerdd wedi’i drefnu nos Lun, Mehefin 24 i gofio am ei fywyd a’i waith gwirfoddol yn cefnogi celfyddyd a diwylliant yn ardal Rhuthun.

Roedd Eirwyn ar amryw o bwyllgorau’r dref gan gynnwys Theatr John Ambrose, Gwyl Rhuthun a Theatr Ieuenctid Dyffryn Clwyd, gyda’i waith a’i amser wedi rhoi cyfleoedd i filoedd, yn enwedig plant ac ieuenctid yr ardal.

Ymhlith yr artistiaid fydd Côr Cytgan Clwyd, Meibion Marchan, Cwmni Drama Rhuthun, Adran Gerdd Ysgol Brynhyfryd ac Ysgol Pen Barras.

Bydd elw’r cyngerdd yn mynd tuag at Apêl Rhuthun at Eisteddfod yr Urdd 2020.

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr am noson i’w chofio mewn lleoliad yr oedd Eirwyn yn allweddol yn ei ddatblygu a’i wella, ac amryw o grwpiau lleol yr oedd wedi eu helpu," medd Iwan Vaughan Evans, cadeirydd Pwyllgor Apêl Rhuthun.

Mae tocynnau yn £10 i oedolion a £5 i blant o Siop Elfair neu drwy ffonio 07495 415471.

Mae’r cyngherddau yn ran o Wyl Rhuthun sydd eleni yn rhedeg rhwng Mehefin 22 a 30, gyda’r digwyddiad poblogaidd Top Dre ar y 29ain o Fehefin, gyda Bryn Fon a’r Band a Candelas ymhlith y perfformwyr.

Mae mwy o wybodaeth ar gael am Gwyl Rhuthun ar eu gwefan www.ruthinfestival.co.uk