BRON i 20 mlynedd ers eu perfformiad cyntaf, mae’r grwp Maharishi yn ail ffurfio ar gyfer gig yn ’Steddfod Llanrwst ac i baratoi’r gynulleidfa at ddos o nostalgia dyma ail ryddhau’r caneuon cynnar yn ddigidol.

Mae ‘Stafell Llawn Mwg’ a ‘Merry Go Round’ nawr ar gael i ffrydio / lawr lwytho.

Dechreuodd y grwp Maharishi yn wreiddiol wrth i Rich Durrell (o Ruthun), Gwilym Davies (yn wreiddiol o Lansannan) ac Euron Jones (o Lanrwst) gyfarfod yn y Coleg ym Mangor yn 1998.

Yn fuan wedi ffurfio, ymunodd Rhodri Evans ar yr allweddellau ac am gyfnod ar y cychwyn, Eurig Williams fu’n drymio.

Ond erbyn i’r band ddechrau recordio eu halbwm cyntaf ‘Stafell Llawn Mwg’ yn stiwdio Sain yn Llandwrog gyda’r cynhyrchydd, y diweddar Les Morrison, roedd Rhydwen Mitchell wedi ymuno ar y drymiau.

Recordiwyd ‘Stafell Llawn Mwg’ yn ystod mis Medi a Thachwedd 1999, ac yn dilyn rhyddhau’r albym yma, enillodd Maharishi wobr ‘Band y Flwyddyn’ yng ngwobrau roc a pop Radio Cymru 2000 ac mi enillodd y gân ‘Ty ar y Mynydd’ oddi ar yr albwm brif wobr ‘Mawredd Mawr’ Radio Cymru yn 2003.

Erbyn recordio’r ail albwm, sef ‘Merry Go Round’, roedd Maharishi yn enw cyfarwydd yn y sin roc Gymraeg.

Recordiwyd hon mewn stiwdio newydd yn Waunfawr, ger Caernarfon, gyda Les Morrison a Sam Durrant yn cynhyrchu a pheiriannu.

Yn sgil y caneuon Saesneg ar ‘Merry Go Round’, cafodd Maharishi eu noddi gan y cwmni dillad mynydda ‘Stone Monkey’ a thrwy’r cwmni hwn cawsant gigs yn Llundain.

Bydd Maharishi yn perfformio ar lwyfan y maes ar nos Sadwrn agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy yn Llanrwst.

Caneuon i gyd: Cyhoeddiadau Sain (cyhoeddwyd y 2 record yn wreiddiol ar label Gwynfryn).