CAFWYD diwrnod braf yng Ngharnifal Dinbych ddydd Sadwrn diwethaf, lle bu rhai o fudiadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn cydweithio i dynnu sylw at fanteision y Gymraeg.

Trefnwyd Cornel Cymraeg y Carnifal gan Menter Iaith Sir Ddinbych, a chafwyd gwybodaeth a chyngor gan swyddogion Coleg Cambria a Popeth Cymraeg i rai oedd yn ystyried mynd ati i ddysgu’r iaith.

Daeth Gwenan a Llinos i siarad am raglen Clwb Cwtsh i rieni, sesiynau sy’n rhoi Cymraeg sylfaenol i rieni newydd tra bod Elfair o Cymraeg i Blant yn rhannu gwybodaeth am eu sesiynau wythnosol ledled y sir.

Daeth rhai cannoedd o blant i gymryd rhan mewn helfa drysor, gweithgaredd lliwio a chreu bathodynnau neu i chwarae, a chafwyd diweddglo blasus i’r pnawn gyda pharti Magi Ann i’r rhai bach.

Bu Mistar Urdd hefyd allan yn mwynhau ei hun yng Ngharnifal Rhuthun, diolch i’w gyfeillion ym Mhwyllgor Apêl Rhuthun Eisteddfod yr Urdd 2020.