URDD Gobaith Cymru yw’r corff gwirfoddol cenedlaethol cyntaf i dderbyn Marc Ansawdd Arian ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Mae lefel arian y marc yn canolbwyntio ar sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cydnabod ac yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth; wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion pobl ifanc; yn cael effaith ar eu canlyniadau; ac yn cynnwys pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau.

Meddai Siân Rogers, cyfarwyddwr gwaith maes ac ieuenctid y gogledd yr Urdd: “Rydym yn hynod o falch o gyrraedd safon Arian y Marc Ansawdd.

"Ers i ni dderbyn y safon efydd yn 2017, rydym wedi gweithio er mwyn datblygu ac ehangu’r ddarpariaeth i’n pobl ifanc.”

Yn ôl adroddiad yr asesiad, mae’r Urdd yn ‘buddsoddi’n sylweddol yn natblygiad y gweithlu, ac mae hyn yn enghraifft o arfer da, yn enwedig ymroddiad y sefydliad tuag at y cynllun prentisiaethau.

"Mae cyfleoedd i bobl ifanc gyfranogi yn eu cymuned leol yn bodoli ledled y wlad a chânt eu teilwra yn unol ag anghenion lleol."