A HITHAU dim ond ychydig ddyddiau ers bwrlwm Top Dre Gwyl Rhuthun, hoffwn, ar ran y pwyllgor, ddiolch i bawb am eu cefnogaeth dros yr wythnos llawn o weithgareddau wrth i ni ddathlu 25 mlynedd o’r wyl.

Diolch arbennig i’r holl sefydliadau a gwirfoddolwyr a drefnodd digwyddiad fel rhan o’r wythnos ac i bawb fynychodd yn ystod y wythnos.

Roedd ‘Top Dre’ yr wyl eleni yn llwyddiant ysgubol gyda’r nifer fwyaf erioed o fynychwyr yn dod i sgwâr Sant Pedr i ddathlu ac i fwynhau. Diolch i bawb a gyfrannodd at y diwrnod, o’r noddwyr amrywiol am eu cefnogaeth ariannol, i’r gwirfoddolwyr am ein helpu gyda phob elfen o’r diwrnod. Heb os, roedd y tywydd da a’r perfformwyr wedi helpu sicrhau llwyddiant, gyda’r dorf o bobl o bob oed wedi cael diwrnod i’w gofio am yn hir!

Mae Pwyllgor Gwyl Rhuthun wastad yn chwilio am aelodau i ymuno a’r tîm i ni fedru cynnig mwy i’r gymuned o flwyddyn i flwyddyn. Os hoffech fod yn aelod o’r tîm neu os allwch roi cefnogaeth o unrhyw fath cysylltwch â ni dros e-bost ar: gwylrhuthun-ruthinfestival@hotmail.co.uk neu trwy ein tudalen Facebook: Gwyl Rhuthun Festival.

GWION TOMOS-JONES

Cadeirydd

Pwyllgor Gwyl Rhuthun 2019