MAE canllaw newydd i ddysgu yn yr awyr agored, yn gosod fframwaith ar gyfer dysgu plant a phobl ifanc tu allan i’r dosbarth, yn rhai o fannau harddaf Cymru.

Mae’r canllaw, a lansiwyd gan y naturiaethwr a llysgennad dysgu yn yr awyr agored, Iolo Williams, yn dod â gwybodaeth a phrofiad arbenigwyr awyr agored ar draws Cymru at ei gilydd.

Mae’n cynnig arweiniad i athrawon ac addysgwyr i wneud yr awyr agored yn rhan annatod o’u dysgu er mwyn cynnig profiadau bythgofiadwy.

Mae’r cynllun yn ddatblygiad yn dilyn cydweithrediad Menter Iaith Conwy gyda mudiadau awyr agored yn yr ardal i ddatblygu sgiliau pobl ifanc lleol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cafodd y canllaw ei ddatblygu gan Banel Ymgynghorwyr Awyr Agored Cymru mewn partneriaeth â Chyngor Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru i’w ddefnyddio gan ysgolion a cholegau, gwasanaethau ieuenctid, clybiau a chanolfannau yng Nghymru.

‘Dysgu Awyr Agored o Ansawdd Rhagorol Cymru’ yw’r cam cyntaf ar gyfer strategaeth uchelgeisiol wedi ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a’r adran Addysg.

Am fwy o wybodaeth, neu am gopi o’r canllaw, ewch i www.oeap.co.uk