HOFFECH chi wneud eich rhan i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050?

Rydym yn edrych am siaradwyr Cymraeg rhugl i ddod i gymdeithasu efo dysgwyr gyda’r nod o roi cyfle iddynt ymarfer beth mae nhw wedi’i ddysgu yn eu gwersi ac i gynyddu eu hyder drwy ddefnyddio fwy o Gymraeg.

Ar ddydd Llun, Gorffennaf 29 o 10.30yb tan 12yp, bydd swyddogion datblygu cymunedau dwyieithog o Fenter Iaith Sir Ddinbych yn cynnal bore coffi yng Nghanolfan Iaith Clwyd, Dinbych.

Yn ogystal â chymdeithasu efo’r dysgwyr, bydd cyfle i bori trwy lyfrau a chryno-ddisgiau Cymraeg ail-law, a bydd siawns i chi gael tro ar gyfrannu eich llais i ‘Common Voice’.

Mae Common Voice yn rhan o fenter Mozilla i helpu i ddysgu peiriannau, sy’n cynnwys technolegau adnabod llais, sut mae pobl ‘go iawn’ yn siarad, ac sydd nawr yn cael ei ddatblygu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Er mwyn datblygu’r dechnoleg Gymraeg, mae angen cyfraniadau o leisiau Cymry Cymraeg, ac felly dyma gyfle i chi gael tro arni.

Mae croeso i bawb a bydd te a choffi am ddim.

Os hoffwch fwy o fanylion, cysylltwch gyda nia@misirddinbych.cymru / buddug@misirddinbych.cymru / 01745 812822.