MAE llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn galw ar blant i gofrestru i ddarllen chwe llyfr yr haf hwn fel rhan o’r Ras Ofod, Sialens Ddarllen yr Haf.

Mae’r Sialens Ddarllen yn gofyn i blant 4-11 oed fenthyca a darllen unrhyw chwe llyfr llyfrgell dros yr haf.

Thema Sialens Ddarllen Haf 2019 yw Ras Ofod, wedi'i hysbrydoli gan dathlu hanner canmlwyddiant y glaniad lleuad cyntaf.

Bydd plant yn ymuno â theulu’r Rocediaid, am antur gyffrous yn y gofod, wrth iddyn nhw ddod o hyd i lyfrau sydd wedi cael eu dwyn gan fand direidus o estroniaid.

Wrth i blant ddarllen llyfrau llyfrgell ar gyfer y Sialens, byddant yn derbyn sticeri arbennig, rhai gydag arogleuon rhyfedd.

I gymryd rhan yn Ras Ofod, mae angen i blant gofrestru yn eu llyfrgell agosaf, lle byddant yn cael ffolder i gadw cofnod o'u taith.

Mae’r Ras Ofod yn rhedeg tan ddiwedd Medi. Mae rhaglen gyfan o weithgareddau wedi'u cynllunio yn llyfrgelloedd Sir Ddinbych i deuluoedd dros yr haf i ddathlu Sialens Ddarllen yr Haf, gan gynnwys amser stori gwahanol gyda mama G, sesiynau crefft a chreu a chlybiau lego. Cysylltwch â'ch llyfrgell leol i gael gwybod mwy.