MAE canllaw i'r holl wybodaeth a chymorth sydd ar gael i ofalwyr yn Sir Ddinbych wedi'i lansio.

Comisiynwyd Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC) i ddatblygu’r canllaw gyda gofalwyr a sefydliadau partner lleol ar ran Cyngor Sir Ddinbych.

Mae'n helpu gofalwyr i gael gwybod sut i gael cymorth gydag arian a budd-daliadau, hawliau cyfreithiol, amser i ffwrdd o ofal, cymorth ymarferol, hyfforddiant, dysgu a chyflogaeth yn ogystal â gwasanaethau'r GIG.

Mae Ian Whitehead, 53, yn ofalwr i'w wraig a hefyd yn gwirfoddoli gyda GOGDdC yn cefnogi gofalwyr a helpu i godi arian.

Dywedodd: “Mae'n bwysig iawn bod gofalwyr yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd yno ar eu cyfer.

"Maen nhw’n chwarae rôl hanfodol, hebddyn nhw byddai’r unigolyn y maen nhw’n gofalu amdano yn fwy ynysig.”

Mae cefnogi gofalwyr a chreu cymunedau cryf yn flaenoriaeth i'r cyngor o dan ei Gynllun Corfforaethol, ac mae cefnogaeth yn cynnwys helpu gofalwyr i gael mynediad at wasanaethau hamdden, darparu cefnogaeth ariannol ar gyfer egwyliau byr, cynnig hyfforddiant i gynnal rolau gofalu, yn ogystal â hyrwyddo dysgu gydol oes a chefnogaeth i barhau i weithio neu ail-gydio yn y gweithlu.

Gallwch gael taflen mewn Siopau Un Alwad, llyfrgelloedd a meddygfeydd ar draws Sir Ddinbych.