HUMPHREY Llyud, William Salesbury, Henry Salesbury, Morgan Llwyd, Jac Glan-y-Gors, Thomas Jones o Ddinbych, Twm o’r Nant, Thomas Gee a Syr Henry James.

Dyna enwau rai o fawrion llenyddol Sir Ddinbych ac enwau sy’n ymddangos mewn cyfrol newydd sbon – Genefa, Paris a Dinbych ac Ysgrifau Eraill.

Casgliad o ysgrifau sy’n bwrw golwg ar bum canrif o gyfraniad i ddiwylliant Cymru gan rai o enwogion yr hen Sir Ddinbych sydd yn y llyfr.

Ond er mai Sir Ddinbych oedd cynefin daearyddol y gwyr llên a drafodir yn y gyfrol hon, roedd eu cynefin syniadol yn eang iawn ac o bwys mawr i Gymru gyfan.

Daethant dan ddylanwad meddylwyr o’r Eidal, yr Almaen, y Swistir, Ffrainc, Lloegr ac America.

Meddai Gwynn Matthews, awdur y gyfrol: “Mae dwy wedd i’r casgliad hwn o ysgrifau.

"Gellid eu hystyried fel rhai o wyr llên Sir Ddinbych a’u cyfraniad i hanes lleol, neu gellid eu hystyried fel ysgrifau ar hanes syniadau a’u cyfraniad i hanes deallusol Cymru.”

Brodor o Lanrhaeadr yng Nghinmeirch yw Gwynn Matthews, ac yno y mae wedi treulio rhan helaeth ei fywyd.

Bydd Genefa, Paris a Dinbych ac Ysgrifau Eraill yn cael ei lansio’n swyddogol ar nos Lun, Gorffennaf 29 am 7.30yh yn Llyfrgell Dinbych.

Bydd Gwynn Matthews yn sgwrsio am y gyfrol, Bethan Hughes yn llywio’r noson, darlleniadau a lluniaeth ysgafn ar gael.

Croeso mawr i bawb!

Mae Genefa, Paris a Dinbych ac Ysgrifau Eraill gan E Gwynn Matthews ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).