MAE cwmni SAIN wedi derbyn nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect sy’n dathlu, archwilio a chofnodi hanes y cwmni recordio dros yr hanner can mlynedd diwethaf.

Mae SAIN wedi bod yn gyfeiliant i fywydau pobl Cymru ers diwedd y 1960au, a'r gerddoriaeth a'r caneuon yn drac sain i gyfnodau amrywiol yn ein hanes - mae gan bawb ei stori, ac yn aml, mae cân i gyd-fynd â'r stori honno.

Wedi hanner canrif o recordio a chyhoeddi, dyma archif sy'n drysor cenedlaethol, ac yn rhan bwysig iawn o ddiwylliant a threftadaeth Cymru.

Gyda chyrraedd y garreg filltir nodedig hon pa ffordd well o ddathlu a chofnodi'r achlysur na gyda phrosiect fydd yn archwilio'r archif unigryw hon gyda chymorth a mewnbwn gan wirfoddolwyr o'r gymuned ac yna ei gyflwyno ar ffurf arddangosfa a chyfres o weithdai i gynulleidfaoedd Cymru.

Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, bydd sesiynau ar stondin SAIN i greu’r arddangosfa dan arweiniad Manon Awst, a bydd yr artist Catrin Williams yn creu murlun fydd yn cyfleu ‘llinell amser’ yr holl weithgarwch dros yr hanner canrif diwethaf.

Os hoffech fod yn rhan o’r gweithdai, gan wirfoddoli ychydig oriau, yna e-bostiwch ellen@sainwales.com